Y Pwyllgor Cyllid

 

 

 

 

 

 

 

 

 

At Ymgyngoreion

 

 

 

 

 Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

9 Hydref 2012

 

Cais am dystiolaeth - Buddsoddi i Arbed

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn galw am wybodaeth i helpu i lywio ein hymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru. Mae'r Gronfa ar gael i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi eu prosiectau gwella strategol sy'n arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol, i ryddhau arian parod, ac i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd yn cael eu darparu.

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad

Diben yr ymchwiliad hwn yw ystyried pa mor effeithiol fu'r Gronfa Buddsoddi i Arbed hyd yma. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwybod a yw'r gronfa'n gweithio, ac os felly, a yw prosiectau'n cael eu copïo ar draws y sector perthnasol?

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau ar unrhyw un, neu'r cyfan o'r pwyntiau a ganlyn:

·         Pa effaith a gaiff y gronfa Buddsoddi i Arbed, a yw'n cyflawni ei dibenion, i "helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, trwy sicrhau bod y gwaith o newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau yn mynd rhagddo mewn modd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy"?

·         I ba raddau y manteisiwyd ar y gronfa?

·         Pa wersi a ddysgwyd, ac a oes modd i enghreifftiau o ymarfer da gael eu rhannu a'u hymestyn yn ehangach drwy'r sector cyhoeddus?

·         Pa arbedion a wnaethpwyd o ganlyniad i ddyfarnu rhoddion o'r gronfa?

§  A oes unrhyw rwystrau i fanteisio ar y gronfa h.y. a oes unrhyw elfennau o broses y gronfa Buddsoddi i Arbed sy'n ei gwneud yn anodd i gymryd rhan yn y cynllun?

 

 

Darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor

 

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid, yn y cyfeiriad uchod, erbyn dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012 fan bellaf. Os ydych yn dymuno cyfrannu ond eich bod yn pryderu na allwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau, dylech siarad â Chlerc y Pwyllgor ar 02920 898409.

 

Os yw'n bosibl, anfonwch gopi electronig mewn ffomat MS Word neu Rich Text, drwy e-bost i'r cyfeiriad a ganlyn Pwyllgor.Cyllid@cymru.gov.uk erbyn Dydd Mawrth 6 Tachwedd 2012.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

 Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor.

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/bolisïau'r Iaith Gymraeg ddarparu cyflwyniadau dwyieithog, yn unol â'u polisïau ar ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

 

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu gosod tystiolaeth ysgrifenedig ar ei wefan, ac mae'n bosibl y caiff ei hargraffu gyda'r adroddiad yn dilyn hynny. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol, ar wahân i farn bersonol a data personol sy'n gysylltiedig â'ch hunaniaeth fel awdur y dystiolaeth, ac ym mha rinwedd, os o gwbl, yr ydych yn darparu'r dystiolaeth (er enghraifft, teitl swydd).

 

Fodd bynnag, os ceir cais am wybodaeth (sy'n cynnwys data personol) o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych, yn llwyr neu'n rhannol. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi (fel y disgrifir yn y paragraff uchod).

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych am i’ch hunaniaeth fel awdur y dystiolaeth gael ei datgelu, dylid nodi hyn yn glir, a’ch penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a'i gais am wybodaeth ar gael yn: www.cynulliadcymru.org

 

Yn gywir

 

Jocelyn Davies 

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid


Atodiad 1:

 

Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Addysg Lleol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Sir Caerdydd

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Gwynedd

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Sir Benfro

Cyngor Sir Powys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Byrddau Iechyd Lleol

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro

Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf

Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda

BILl Addysgu Powys

Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru Gyfan

Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru

 

Cyffredinol

Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Cyngor Gofal Cymru

Comisiynydd Plant Cymru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yr Ymddiriedolaeth Garbon a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

 

Prifysgolion

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Morgannwg

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Casnewydd

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Prifysgol Fetropolitan Abertawe

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Prifysgol Glyndŵr

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

 

Colegau Addysg Bellach

De Ddwyrain Cymru

Coleg y Barri

Coleg Pen-y-Bont ar Ogwr

Coleg Morgannwg

Coleg Gwent

Coleg Merthyr Tudful

Coleg Ystrad Mynach

De a Gorllewin Cymru

Coleg Sir Gâr

Coleg Castedd-nedd Port Talbot

Coleg Sir Benfro

Coleg Abertawe

Canolbarth Cymru

Coleg Ceredigion

Coleg Powys

Gogledd Cymru

Coleg Harlech

Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Menai

Coleg Glannau Dyfrdwy

Coleg Iâl, Wrecsam